Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Thursday 13 November 2014

Casgliadau o Awyrluniau’r Arolwg Ordnans - Trysorau O’n Harchif







Printiau a negatifau o Raglen Mapio o’r Awyr yr Arolwg Ordnans yw llawer iawn o’r eitemau yng Nghasgliadau Awyrluniau Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Mae’r golygon fertigol hyn yn dyddio o 1962 hyd 2009. Mae pob ffrâm unigol ar y rholiau mawr iawn hyn o ffilm yn agos at 9” (23cm) sgwâr. Mae fformat mor fawr yn sicrhau manylder anhygoel ar y ddaear.
Porth-cawl, Morgannwg DI_21014_0440
Mae’r ffotograff uchod (DI_21014_0440) yn dangos Porth-cawl, Morgannwg. Mae rhywfaint o draffig i’w weld ar y ffordd, ond mae llawer o geir wedi’u parcio ar y promenâd. Mae’r llanw allan – mae’r cychod yn yr harbwr yn gorwedd yn y llaid a gellir gweld ehangder mawr o dywod ar y traeth ar y dde ar waelod y llun.

Yng nghornel chwith uchaf y llun mae’r rhifydd yn dangos mai 123 yw rhif y ffrâm. Yn y stribed du ar frig y ffrâm mae pedair ffenestr fach sy’n rhoi manylion pwysig am y ddelwedd. Ar y chwith, mae darlleniad yr altimedr yn dangos 6,170 troedfedd. Mae’r ffenestr nesaf, y swigen lefel wirod ar gyfer y dangosydd asimwth, yn dangos bod yr awyren yn hedfan yn lefel. Mae’r cloc graddnodedig yn dweud wrthym i’r ffotograff gael ei dynnu am 15 eiliad wedi 10.55. Yn y ffenestr olaf, nodir mai’r dyddiad yw’r 5ed o Fai 1993 ac mai’r cyfeirnod ffilm unigryw yw 93-125.

Yn ogystal â chynnig cip diddorol ar batrymau defnydd tir yn y gorffennol, gall awyrluniau hanesyddol gael eu defnyddio at sawl pwrpas, gan gynnwys ymchwiliadau archaeolegol, lleoli ffiniau a llwybrau troed, materion cynllunio, morffoleg y safle, ac ati.

Tynnwyd lluniau o’r awyr o’r wlad gyfan er mwyn diweddaru’r mapiau. Gwnaed arolygon ar y ddaear a gwaith graddnodi gan staff yr Arolwg Ordnans hefyd, gan sicrhau bod hwn yn ddull effeithlon a manwl iawn o gofnodi’r dirwedd.

Gellir gweld y casgliadau hyn yn ein Hystafell Chwilio a Llyfrgell yn ystod oriau agor arferol. Os hoffech weld yr amrywiaeth lawn o awyrluniau ar gyfer unrhyw ardal benodol fe’ch cynghorir i wneud apwyntiad.


I gael mwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan neu cysylltwch â CHCC: chc.cymru@cbhc.gov.uk


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin