Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Tuesday 11 November 2014

Casgliad Herbert L. North - Trysorau O’n Harchif







Mae casgliad Herbert L. North, enghraifft hynod ddeniadol o gofnodion cwmni o benseiri, yn cynnwys cynlluniau a lluniadau, a rhai ffotograffau, o ddyluniadau North ar gyfer tai, eglwysi, a chomisiynau cyhoeddus fel ysgolion. Cafodd partneriaeth North a Padmore ei sefydlu gan North, pensaer adnabyddus ac uchel ei barch a weithiai yn yr arddull Celf a Chrefft, a bu’r cwmni’n weithgar yng Ngogledd Cymru o tua 1900 hyd 1940. Mae llawer o’r adeiladau a gofnodir i’w gweld heddiw, yn enwedig yng nghyffiniau Llanfairfechan, lle’r oedd swyddfeydd y cwmni a chartref North, er na chafodd rhai o’r cynlluniau eu gwireddu. Ceir mwy na 200 o eitemau catalog unigol yn y casgliad, y mae bron pob un ohonynt wedi’i digido.

Cynlluniau a golygon o ddyluniad arfaethedig ar gyfer tŷ yn The Close, Llanfairfechan, i’r Arglwydd Olivier. Graddfa: wyth troedfedd i un fodfedd; inc ar bapur, ND2/012, DI2010_1100. Ni chafodd y tŷ ei adeiladu.

Golygon a thrawstoriadau ar gyfer Ysgol Genedlaethol Gyffin, inc a golchiad lliw ar bapur, graddfa dwy droedfedd i un fodfedd, ND2/058, DI2005_1214.


Dewch i ddarganfod mwy yn ystod Diwrnod Ymwybyddiaeth o’r Archif y Comisiwn Brenhinol ar 12 Tachwedd, 2014 – diwrnod o sgyrsiau a theithiau. Agored i bawb!

I gael mwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan neu cysylltwch â CHCC: chc.cymru@cbhc.gov.uk


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin