Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Friday 7 November 2014

Casgliad o Luniau Arosgo Arfordirol y Llu Awyr - Trysorau O’n Harchif







Lluniau ‘fertigol’ yw’r rhan fwyaf o’r awyrluniau hanesyddol yng nghasgliad y Llu Awyr Brenhinol (wedi’u tynnu rhwng 1945 a 1965) yn y Cofnod Henebion Cenedlaethol. Cawsant eu tynnu o awyren a oedd yn hedfan ar gryn uchder, ac mae’r camera yn edrych yn syth i lawr ar y ddaear islaw. Serch hynny, mae yna gasgliad bach o luniau ‘arosgo’, lle mae’r awyren yn hedfan yn weddol isel a’r camera wedi’i leoli i edrych allan drwy ochr yr awyren ac ar ongl tuag at y ddaear.

Yn ystod  rhan olaf y 1950au, ymgymerodd y Llu Awyr ag arolygon ffotograffig o’r awyr o arfordir y wlad. Mae’r casgliad o ddelweddau a ffurfiwyd o ganlyniad yn gofnod hynod bwysig o’r dirwedd. Pan gânt eu hastudio ochr yn ochr â lluniau modern o’r un ardaloedd, gallant ddatgelu newidiadau cynnil yn yr amgylchedd, ond hefyd ddangos nad yw rhai pethau wedi newid o gwbl bron.


Aberystwyth 1959, DI2013_5004

Aberystwyth 2006, AP_2006_2559

Golygon cyffelyb o Gastell Aberystwyth yw’r ddau ffotograff uchod. Un o luniau’r Llu Awyr yw’r cyntaf, a dynnwyd ym mis Awst 1959, a chafodd y llun lliw (AP_2006_2559) ei dynnu gan Staff Ffotograffiaeth o’r Awyr CBHC ym mis Gorffennaf 2006.

Mae printiau o gasgliad lluniau arosgo arfordirol y Llu Awyr yn cael eu digido ar hyn o bryd fel rhan o raglen dreigl, a byddant ar gael ar-lein drwy Coflein.

Gellir gweld y casgliadau hyn yn ein Hystafell Chwilio a Llyfrgell yn ystod oriau agor arferol. Os hoffech weld yr amrywiaeth lawn o awyrluniau ar gyfer unrhyw ardal benodol fe’ch cynghorir i wneud apwyntiad.

Dewch i ddarganfod mwy yn ystod Diwrnod Ymwybyddiaeth o’r Archif y Comisiwn Brenhinol ar 12 Tachwedd, 2014 – diwrnod o sgyrsiau a theithiau. Agored i bawb!

I gael mwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan neu cysylltwch â CHCC: chc.cymru@cbhc.gov.uk


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin