Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Monday 22 February 2016

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru i adleoli i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth





Cyhoeddodd un o sefydliadau treftadaeth blaenllaw Cymru heddiw y bydd yn symud i swyddfeydd newydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LLGC) yn 2016.

Mae gwaith eisoes ar droed yn LLGC i adnewyddu adain o’r Llyfrgell at ddefnydd y 30 aelod staff o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC).

Bydd cyn Ystafell Lawysgrifau LLGC yn cael ei throi yn ystafell chwilio gyhoeddus a llyfrgell mynediad agored ar gyfer Cofnodion Cenedlaethol Henebion Cymru, sy’n gasgliad enfawr a chyfoethog o ffotograffau a chofnodion treftadaeth y mae’r Comisiwn wedi casglu ers ei sefydlu nôl yn 1908.

Bydd y cofnodion yma’n cael eu storio o dan amgylchiadau amgylcheddol wedi’u rheoli’n ofalus, a hynny mewn dau lawr o’r storfa archif chwe llawr newydd sy’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd yn y Llyfrgell.

Meddai Christopher Catling, Ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol:

“Bydd symud o’n swyddfeydd presennol ym Mhlas Crug (y cyn swyddfeydd treth yn Aberystwyth) i adeilad a gynlluniwyd i bwrpas yn y Llyfrgell, yn ein galluogi i ddarparu gwasanaeth tipyn gwell i’n defnyddwyr niferus ynghyd â chyfleusterau storio gwell ar gyfer archifau’r Comisiwn, sy’n cynnwys ffotograffau yn dyddio nôl i ddyddiau cynnar ffotograffiaeth, mapiau hanesyddol a chofnodion am adeiladau ac henebion ledled Cymru.

Yn fwy na dim, dywedodd: ‘Ein gobaith yw y bydd y symud yn codi’n proffil, gan gynyddu’n sylweddol y nifer o bobl sy’n ymweld â’n hystafell chwilio er mwyn gwneud defnydd o’r cofnodion a gedwir gennym fel rhan o’u hymchwil ar deulu a hanes lleol neu ar agweddau o hanes ac archaeoleg Cymru.’

Dywedodd Linda Tomos, Llyfrgellydd Cenedlaethol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, fod y Llyfrgell yn edrych ymlaen at groesawi’r Comisiwn Brenhinol fel tenant gan ychwanegu:

‘Mae’n casgliadau cyfoethog ac amrywiol yn ategu ei gilydd yn dda ac mae yna gynlluniau eisoes ar y gweill i weld ein dau sefydliad yn cydweithio ar weithgareddau estyn allan ac ymgysylltu. Mae trafodaethau wedi dechrau ar gynnig digwyddiadau ac arddangosfeydd ar y cyd yn Aberystwyth ac mae yna botensial cyffrous i weithio’n agosach er mwyn ehangu ein gwaith digidol a chymunedol ledled Cymru a thu hwnt – gan adeiladu ar gryfderau’n gilydd er mwyn sicrhau fod treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru yn cael ei fanteisio’n llawn gan economi Cymru i ysbrydoli, arloesi a thyfu.’

Ymwelodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, â’r Llyfrgell ar 21 Medi 2015 pan gafodd gyfle i archwilio’r gwaith adeiladu newydd. Meddai’r Dirprwy Weinidog: ‘Gyda symudiad y Comisiwn Brenhinol i’r Llyfrgell Genedlaethol gwelwn ddau o sefydliadau treftadaeth ein cenedl yn dod at ei gilydd o dan yr un to. Mae’r cyfleusterau gwell, ynghyd â phroffil uchel Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig cyfle arbennig i’r Comisiwn Brenhinol gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a chodi ymwybyddiaeth am ei gwaith diddorol.’

Gwybodaeth Bellach:
Nicola Roberts 01970 621248 nicola.roberts@cbhc.gov.uk
Rhian Haf Evans 01970 632938 neu post@llgc.org.uk

Nodiadau i Olygyddion:
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Mae gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru rôl genedlaethol flaenllaw o ran datblygu a hyrwyddo dealltwriaeth o dreftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru, fel cychwynnwr, curadur a chyflenwr gwybodaeth awdurdodol i wneuthurwyr penderfyniadau unigol a chorfforaethol, a rhai’r llywodraeth, ac i ymchwilwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol..

Mae tirwedd a threftadaeth adeiledig Cymru’n ffrwyth rhyngweithiadau pobl â byd natur dros filoedd o flynyddoedd. Ers iddo gael ei sefydlu ym 1908, mae’r Comisiwn Brenhinol wedi bod ar y blaen o ran esbonio ac ymchwilio i olion y rhyngweithiadau hynny, sef yr archaeoleg a’r adeiladau hanesyddol a welwn ni o’n cwmpas.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LLGC) yn gwasanaethu fel cof y genedl. Mae’n storfa o drysorau a ffeithiau, yn lledaenwr gwybodaeth, yn lleoliad, yn gyrchfan, yn le ar gyfer cadw’r gorffennol yn ddiogel ac ar gael i bawb fynd ato, i’w ddefnyddio ac ysbrydoli nawr ac yn y dyfodol.

Wedi’i leoli yn Aberystwyth, mae’r Llyfrgell yn chwarae rhan ganolog mewn diwylliant a threftadaeth fel un o sefydliadau cenedlaethol mwyaf Cymru. Fel un o’r chwech Llyfrgell Hawlfraint yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon mae casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn eang ac amrywiol ac ar gael am ddim. Maen nhw’n cynnwys 950,000 o ffotograffau, 150,000 awr o recordiadau sain, 250,000 oriau o ddelweddau symudol, 25,000 llawysgrif, 50,000 o weithiau celf, 1,500,000 o fapiau ynghyd â 6,000,000 o lyfrau. Mae mwy na 5,000,000 o eitemau unigol o’r casgliadau yma wedi eu digido ac ar gael ar y we yn rhad ac am ddim.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ymgymryd â rhaglen lawn a chyson o ddigwyddiadau cyhoeddus sy’n cynnwys arddangosfeydd o safon uchel, yn barhaol a thros dro, a gweithgareddau addysgol a dehongliadol i gyd fynd â nhw. Mae’r rhain yn allweddol i genhadaeth LLGC o ddehongli’r casgliadau ar gyfer ystod eang o gynulleidfaoedd, a’u hannog i gyfrangogi, boed hynny yn yr adeilad, mewn lleoliadau allanol neu ar-lein.


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!


Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin




Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin