Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Friday 11 September 2015

Diwrnod Agored Treftadaeth Caergybi, 19 Medi 10am–4.30pm





Bydd y Comisiwn Brenhinol yn ymuno â staff Menter Treftadaeth Tref Caergybi i ddathlu gorffennol pensaernïol Caergybi. Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar y gaer Rufeinig ac Eglwys Cybi Sant, a bydd bywyd milwrol a sifil y Rhufeinwyr yn cael ei ail-greu. Am 11am a 2pm fe fydd Richard Suggett, hanesydd pensaernïol y Comisiwn Brenhinol, yn arwain taith dywys i weld Eglwys Cybi Sant a’r cyffiniau. Bydd pob taith yn para am ryw awr a hanner ac yn dechrau o ystafell de Canolfan Ucheldre, Millbank, Caergybi, Ynys Môn, LL65 1TE.


Fe’ch cynghorir i gysylltu â’r Comisiwn i drefnu eich lle ymlaen llaw.
I drefnu’ch lle, cysylltwch â: nicola.roberts@cbhc.gov.uk 01970 621248

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin