Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Thursday 22 October 2015

Archifau sy’n Ysbrydoli: Dewch i gael eich ysbrydoli gan archifau’r Comisiwn Brenhinol 18 Tachwedd, 12pm–7pm





Fel rhan o ymgyrch Archwiliwch eich Archifau eleni, bydd y Comisiwn Brenhinol yn cynnal Archifau sy’n Ysbrydoli: rhaglen o ddigwyddiadau i annog pobl i ddefnyddio ein harchifau mewn ffordd greadigol.

Ar Ddydd Mercher, 18 Tachwedd 2015, byddwn yn cynnal Diwrnod Agored, ac rydym yn gwahodd pobl i ddod i’r Comisiwn i ddarganfod y casgliadau unigryw sydd yn ein harchifau – ac i gael eu hysbrydoli i greu rhywbeth eu hunain.

Bydd gweithgareddau’r diwrnod yn cynnwys gweithdai creadigol, ac arddangosiadau ar fodelu 3D, lluniadau ail-greu, animeiddiadau, ffotograffiaeth, adnoddau digidol (LiDAR, GIS) a llawer mwy. Yn ogystal, fe fydd sgyrsiau cyffrous gan ymchwilydd o’r awyr y Comisiwn Brenhinol, Dr Toby Driver, ar Batrymau o’r Gorffennol: Rhyfeddodau’r Archif Awyrluniau a chan ein ffotograffydd, Iain Wright, ar Drwy Lens y Ffotograffydd.


Bydd detholiad o waith y Mad Mountain Stitchers, grŵp o artistiaid tecstil hynod o greadigol sydd wedi’u hysbrydoli gan gasgliadau Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, hefyd yn cael ei arddangos, gan gynnwys eu croglun anhygoel, Big Pit, a bydd yr artistiaid wrth law i siarad am eu crefft, ac am y defnyddiau a thechnegau a ddefnyddiant i greu eu gweithiau tecstil.

Drwy gydol y prynhawn a gyda’r nos, bydd ymwelwyr yn cael cyfle i archwilio’r amrywiaeth helaeth o gasgliadau o ffotograffau, mapiau, cynlluniau, lluniadau, testunau, a deunydd arall yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Bydd croeso i chi gymryd rhan mewn gweithdai, gan weithio gyda myfyrwyr o Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth i feddwl yn greadigol am ddefnyddio’r archifau i gynhyrchu cerddi, straeon byrion, gweithiau celf, tecstilau, modelau, cerflunwaith, gwaith gweu, teisennau neu unrhyw beth arall y cewch eich ysbrydoli i’w gynhyrchu.

Cyflwyno’ch gwaith – ar ôl cael eich ysbrydoli i greu darn o waith mewn cyfrwng o’ch dewis – yn weledol neu’n ysgrifenedig – byddem yn falch o dderbyn fersiwn digidol ohono (ffotograff, recordiad, dogfen destun ac ati) drwy e-bost (chc.cymru@cbhc.gov.uk) cyn 17 Ionawr 2016. Byddwch cystal ag anfon y ffurflen gyflwyno hefyd. Bydd yr holl gyflwyniadau’n dod yn rhan o arddangosfa ar-lein o’r enw Casgliad Archifau sy’n Ysbrydoli ar wefan Casgliad y Werin Cymru lle byddwch chi’n gallu eu gweld, cynnig sylwadau arnynt a’u rhannu. Hefyd fe gyhoeddir detholiad ohonynt gan Planet a chânt eu dangos mewn arddangosfa yn y Flwyddyn Newydd – manylion i ddod.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Plas Crug, Aberystwyth, Ceredigion SY23 1NJ, ffôn: 01970 621200, e-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk

Croeso i bawb. Mae pob digwyddiad am ddim. Dewch atom am y diwrnod i gael eich ysbrydoli!

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!


Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin




Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin