Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Tuesday 16 September 2014

Drysau Agored 2014: Dewch i ddarganfod mwy am ein capeli!





Capel Bethel , Aberystwyth, NPRN:7149.
Capel Bethel, Aberystwyth, NPRN: 7147.
Mae ffasadau crand capeli Stryd y Popty yn parhau’n drawiadol 100 mlynedd a mwy ar ôl eu codi
.
Fel rhan o raglen Drysau Agored 2014, fe fydd y Comisiwn Brenhinol yn agor ei ddrysau ar 20 Medi ar gyfer diwrnod hanes capeli. Bydd y diwrnod yn cynnig sgyrsiau gan arbenigwyr blaenllaw, arddangosfa o ddeunydd prin o’r archif, a chyfle i ddarganfod mwy am ein cronfa ddata o fwy na 6000 o gapeli a’r prosiect partneriaeth cyffrous rhwng y Comisiwn ac Addoldai Cymru. Am 1.30pm a 2pm fe fydd cyfle hefyd i ymuno â theithiau tywys i weld rhai o gapeli hanesyddol mwyaf arbennig Aberystwyth. Arweinir y teithiau gan arbenigwyr ar gapeli o’r Comisiwn Brenhinol a byddant yn dechrau o’r tu allan i’r English Baptist Chapel ym Maes Alfred ac yn cymryd rhwng 1½ awr a 2 awr. Ar ddiwedd y daith fe ddarperir te, teisen a bisgedi yng Nghanolfan Fethodistaidd Sant Paul, Morfa Mawr, Aberystwyth. I gael mwy o wybodaeth ac i drefnu eich lle, cysylltwch â nicola.roberts@cbhc.gov.uk, ffôn: 01970 621200.

Cychwynnodd y rhaglen Drysau Agored yn Ffrainc ym 1984 ac mae’n rhan o’r Dyddiau Treftadaeth Ewropeaidd a gynhelir ar draws Ewrop bob blwyddyn ym mis Medi ac a drefnir yng Nghymru gan Cadw. Dathliad blynyddol ydyw sy’n hyrwyddo pensaernïaeth a’r dreftadaeth adeiledig i’r gynulleidfa ehangaf bosibl drwy agor adeiladau nad ydynt ar agor fel arfer i’r cyhoedd, a thrwy gynnig mynediad am ddim i’r safleoedd hynny sy’n codi tâl fel rheol am fynd i mewn.

‘Dathliad cenedlaethol o’n treftadaeth yw Drysau Agored, ac mae’n gyfle gwych i bobl sy’n ymddiddori yn eu treftadaeth leol i rannu eu brwdfrydedd ag ymwelwyr drwy ddangos iddynt gornel fach hanesyddol o Gymru.’ Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon, 2014


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales


Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin