Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Monday 18 November 2013

Y Comisiwn Brenhinol Yn Ennill Gwobr O Fri Am Animeiddiad 3D O’r Diwydiant Copr





Mae’r Gymdeithas Archaeoleg Ddiwydiannol wedi dyfarnu gwobr i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru i gydnabod ei ddefnydd o ail-greu cyfrifiadurol ac animeiddio i egluro safleoedd archaeolegol diwydiannol cymhleth.

Cafodd yr animeiddiad o Waith Copr yr Hafod, a grëwyd ar y cyd â’r cwmni delweddu ThinkPlay o Geredigion, ei gynhyrchu fel rhan o brosiect a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Bydoedd Lleol a Byd-Eang Copr Cymru. Un o brif amcanion y prosiect oedd hybu dealltwriaeth o Waith Copr yr Hafod, y gwaith mwyndoddi copr mwyaf yn y byd pan oedd yn ei anterth, ond sydd wedi mynd i ddifancoll i raddau helaeth ers ei gau ym 1980. Un o nodweddion arbennig y safle hwn yw’r peiriant Musgrave a oedd yn darparu pŵer ar gyfer y melinau rholio. Dyma’r unig beiriant o’i fath sy’n parhau yn ei safle gwreiddiol. 
Y ddau beiriandy a’r peirianwaith rholio sydd wedi goroesi ar safle Gwaith Copr yr Hafod. Hawlfraint y Goron: CBHC
Gan ddefnyddio gwaith arolygu helaeth a wnaed gan y Comisiwn Brenhinol a’i arbenigedd mewnol, ynghyd â delweddau hanesyddol a ddarparwyd gan Archifdy Gorllewin Morgannwg ac Amgueddfa Abertawe, mae’r animeiddiad yn ail-greu manylion yr adeiladau, peiriannau a phrosesau ar y safle ac yn rhoi darlun realistig o’r diwydiant trwm yng Nghwm Tawe Isaf yn rhan olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg a rhan gyntaf yr ugeinfed ganrif.
 
Lluniau llonydd o’r animeiddiad. Hawlfraint y Goron: CBHC
Yn ogystal â bod yn rhan allweddol o’r arddangosfa dros dro Bydoedd Lleol a Byd-Eang Copr Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, mae’r animeiddiad wedi cael ei ddefnyddio ar y rhaglen deledu Time Team, ac mae’n rhan annatod o brofiad Cwch Cymunedol Abertawe. Mae wedi cael ei ddangos mewn nifer o wledydd, o Ffrainc i China, ac wedi ennill clod gan Gymdeithas Archaeoleg Ddiwydiannol America sydd wedi argymell y ffilm i’w haelodau. Mae’r animeiddiad bellach yn cael ei arddangos yn barhaol yn Amgueddfa’r Glannau.

Bu’r Comisiwn Brenhinol yn adnabyddus ers tro byd am ddefnyddio lluniadau rhandoredig ac adluniadau 2D mewn llyfrau arloesol megis Houses of the Welsh Countryside, ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi arwain y ffordd wrth ddefnyddio technolegau digidol i ddehongli safleoedd cymhleth ar hyd a lled Cymru. Mae Gwobr Peter Neaverson yn cydnabod dylanwad gwaith y Comisiwn ar ddatblygu dehongli, lledaenu a diogelu ein treftadaeth a’n harchaeoleg ddiwydiannol. Gellir gweld enghreifftiau o holl animeiddiadau CBHC yn http://www.youtube.com/user/RCAHMWales/videos.

Cafodd yr animeiddiad o Waith Copr yr Hafod ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol fel rhan o’r prosiect Bydoedd Lleol a Byd-Eang Copr Cymru, dan arweiniad Prifysgol Abertawe a phrosiect Atlanterra sy’n cael ei ariannu gan Ewrop.
Mae’r Wobr gyntaf am Arloesedd Digidol wedi cael ei dyfarnu i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru am ei animeiddiad o ddiwydiant copr Abertawe. Derbyniodd Stephen Hughes y Wobr gan Marilyn Palmer, Llywydd y Gymdeithas Archaeoleg Ddiwydiannol, yng Nghinio Cynhadledd y Gymdeithas ar fwrdd HMS Unicorn yn Dundee.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin