Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Friday 29 November 2013

Y Comisiwn Brenhinol yn Croesawu Ysgrifennydd Newydd





Mae Ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol, Dr Peter Wakelin, yn gadael ar ôl wyth mlynedd i ymgymryd â swydd y Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil yn Amgueddfa Cymru.

Ar ôl gweithio fel Arolygydd Henebion ac Adeiladau Hanesyddol gyda Cadw ac yna fel Pennaeth yr Uned Adfywio yng Nghyfarwyddiaeth Cymunedau Llywodraeth Cymru, mae Peter wedi gwneud cyfraniad nodedig i waith y Comisiwn Brenhinol. Treuliodd lawer o’i amser yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn cymryd rhan yn y trafodaethau ar yr uno posibl â Cadw, yr ydym yn disgwyl penderfyniad arno gan ein gweinidog noddi, John Griffiths AC, yn gynnar iawn yn y Flwyddyn Newydd. Arweiniodd Peter adolygiad ac ailstrwythuro strategol o’r sefydliad a sicrhaodd gryn ganmoliaeth i’r Comisiwn yn sgil dau adolygiad allanol mawr o’i waith. Rhoddodd hwb sylweddol i broffil cyhoeddus y sefydliad hefyd, wrth i lyfrau poblogaidd a llwyddiannus gael eu cyhoeddi ac i’r Comisiwn gymryd rhan mewn tair cyfres deledu Saesneg ac un Gymraeg.

Hilary Malaws
Mae’n dda gennym gyhoeddi i Mrs Hilary Malaws, Cyfarwyddwr Gwasanaethau’r Comisiwn Brenhinol, gael ei phenodi’n Ysgrifennydd Dros Dro am gyfnod o chwe mis i ddechrau. Erbyn hynny fe fydd y dyfodol yn fwy eglur.

Aelod hir-sefydledig o’r staff sydd â phrofiad helaeth ym meysydd llyfrgelloedd, archifau a rheoli gwybodaeth yw Hilary. Mae hi hefyd yn adnabyddus i lawer o’n partneriaid. Mae hi wedi arwain ymwneud y Comisiwn Brenhinol â’r prosiect Casgliad y Werin Cymru fel un o’r tri phartner a hefyd ein partneriaeth SWISH arloesol gyda Chomisiwn Brenhinol Henebion yr Alban, sy’n darparu sylfaen ar gyfer cyflwyno ein hadnoddau archifol a’n gwybodaeth ar-lein drwy Coflein a llwyfannau eraill.

Bydd Hilary yn dechrau yn ei swydd newydd fel Ysgrifennydd Dros Dro ar 1 Rhagfyr 2013. Wrth siarad am ei phenodiad, dywedodd:

“Mae’n fraint cael fy mhenodi’n Ysgrifennydd Dros Dro ac rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda’n Comisiynwyr, staff a phartneriaid i sicrhau bod popeth yn rhedeg yn llyfr ar yr adeg heriol yma. Staff ymroddedig y Comisiwn Brenhinol yw ein hased mwyaf ac rydw i wedi ymrwymo i sicrhau bod eu harbenigedd, ynghyd â’n swyddogaethau creiddiol, yn cael eu diogelu, gan ddarparu gwasanaeth ardderchog i’r sector ac i’r cyhoedd.”


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin