Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Monday 2 February 2015

Y Llyfrgell - Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru






Ymunwch â ni drwy’r wythnos hon wrth i’r Comisiwn Brenhinol ddathlu ei lyfrgell wych gyda blogiau a twîts cyn Diwrnod Cenedlaethol y Llyfrgelloedd ar 7 Chwefror 2015. Darganfyddwch pa lyfrau a ysbrydolodd ein staff i fentro i fyd archaeoleg a chadwch eich llygaid ar agor am ein #shelfies. I gael newyddion am ddigwyddiadau ar hyd a lled Prydain, ewch i wefan Diwrnod Cenedlaethol y Llyfrgelloedd yn http://www.nationallibrariesday.org.uk/.

Dewch i weld ein casgliad anhygoel o lyfrau, cylchgronau, arweinlyfrau a phamffledi yn ymwneud ag archaeoleg, pensaernïaeth, archaeoleg ddiwydiannol a hanes a threftadaeth Cymru yn ein llyfrgell arbenigol fach ond cynhwysfawr. Rydych chi’n siŵr o ddod o hyd i rywbeth o ddiddordeb!.


Rydw i’n arbennig o hoff o’r adran bensaernïaeth lle mae amrywiaeth helaeth o lyfrau ar y gwahanol fathau o adeiladau, eu hanes a’u nodweddion adeileddol ac addurnol. Un o’m ffefrynnau personol yw The Victorian House gan Kit Wedd, 2002, sy’n cynnwys ffotograffau hardd yn dangos rhai o’r cynlluniau lliw cyfoethog a dyluniadau cywrain a oedd yn boblogaidd yn oes Victoria. Ceir ynddo hefyd benodau hynod ddifyr ar ddatblygiad ystadau o dai diwydiannol, arddulliau pensaernïol, a gwaith haearn, lleoedd tân a simneiau.

Dewch i’r llyfrgell i weld y llyfr bendigedig hwn a llu o rai eraill.

Rydym ar agor ar Ddydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau a Dydd Gwener rhwng 09:30 a16:00, ac ar Ddydd Mercher rhwng 10:30 a 16:30.

Penny Icke, Rheolwr Gwasanaethau Gwybodaeth, Y Comisiwn Brenhinol


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin