Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Tuesday 17 February 2015

Dyddiadau i’ch Dyddiadur: Croeso Cynnes i Bawb





18 Chwefror, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Sgwrs amser cinio gan Richard Suggett, hanesydd pensaernïol y Comisiwn Brenhinol, ar Snowdonian Houses in context. Fe’i cynhelir am 1.15pm yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mynediad am ddim drwy docyn. I gael tocynnau a gwybodaeth bellach, cysylltwch â: http://www.llgc.org.uk/cy/.

19 Chwefror, Cymdeithas Stapledon, 7.45pm. Sgwrs gan Dr Toby Driver, archaeolegydd o’r awyr y Comisiwn Brenhinol, ar Light, lasers and cropmarks: Aerial archaeology and discovery in Wales, i Gymdeithas Stapledon, A14 Adeilad Hugh Owen, Prifysgol Aberystwyth, Campws Penglais.

21 Chwefror, YDCW/CPRW Llanidloes, 2pm. Sgwrs gyda lluniau gan Iain Wright, ffotograffydd y Comisiwn Brenhinol, ar Location Photography: a privileged life, ym Mhlas Dolerw, Y Drenewydd. Croeso cynnes i bawb.

21 Chwefror, Cyd-gynhadledd Syr John Rhŷs wedi’i chynnal mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Comisiwn Brenhinol, 10am–4.30pm. Am 3.30pm, bydd Richard Suggett yn siarad ar Sir John Rhŷs and the foundation of the Royal Commission. Dyma’r gyntaf o ddwy gynhadledd a fydd yn dathlu cyflawniadau Syr John Rhŷs, cadeirydd cyntaf y Comisiwn Brenhinol, ac ieithegydd a llên-gwerinwr Cymreig enwog.

7 Mawrth, Diwrnod Archaeoleg Sir Gâr wedi’i drefnu gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, 10am–4.30pm. Bydd gan y Comisiwn Brenhinol stondin arddangos ac aelod staff yn y digwyddiad hwn. Fei’i cynhelir yn Ystafell Lliedi, Canolfan Selwyn Samuel, Llanelli. I gael manylion pellach cysylltwch â: s.rees@dyfedarchaeology.org.uk.

11 Mawrth, Cangen y Borth o’r Lleng Brydeinig Frenhinol, 7pm. Sgwrs gan Medwyn Parry, arbenigwr milwrol y Comisiwn Brenhinol, ar World War I remains in Wales yn Neuadd Goffa’r Borth, Y Borth.

11 Mawrth, Cymdeithas Ddinesig Aberystwyth a’r Cylch, 7.30pm. Sgwrs gan Louise Barker, archaeolegydd gyda’r Comisiwn Brenhinol, ar Welsh Slate and World Heritage, yn rhagflaenu cyhoeddi llyfr y Comisiwn Brenhinol: Welsh Slate: Archaeology and History of an Industry. Bydd y sgwrs yn Neuadd Eglwys Bresbyteraidd Dewi Sant, Stryd y Baddon, Aberystwyth. Croeso cynnes i bawb.

29 Ebrill, Seminar y Gwanwyn, cangen Brycheiniog a Maesyfed o Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig (YDCW), 2.30pm. Sgwrs gan David Leighton, uwch archaeolegydd y Comisiwn Brenhinol, ar Archaeology and the Welsh Landscape: Breconshire and Radnorshire yng Nghanolfan Ymwelwyr Cwm Elan, Rhaeadr, Powys, LD6 5HP.

9 Mai, Y Daith Gerdded Fawr Gymreig: Tarddiad Afon Wysg. Taith Dywys mewn partneriaeth â Ramblers Cymru a Cadw. Bydd y daith gerdded hon yn mynd â chi drwy rannau uchaf Afon Wysg hyd at ei tharddiad (o dan glogwyni Fan Brycheiniog a Bannau Sir Gaer) ac ochr ddwyreiniol bellaf y Mynydd Du. Bydd modd gweld safleoedd cynhanesyddol, Rhufeinig, canoloesol a diweddarach ar hyd y llwybr hwn. Cyfarfod am 10.30am yn y man parcio a phicnic ym Mhont ar Wysg yn SN82002715. Taith egnïol yw hon sy’n gofyn am gryn ymroddiad a lefel dda o ffitrwydd. Nifer cyfyngedig o leoedd. I gael manylion pellach a bwcio, cysylltwch â: nicola.roberts@cbhc.gov.uk, Ffôn: 01970 621248.

16 Mai, Ffair Hanes Teulu a Lleol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 10am–4pm. Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan Gymdeithasau Hanes Teuluoedd Undebol Cymru a Chymdeithas Hanes Teuluoedd Sir Aberteifi, a bydd yno amrywiaeth eang o stondinau – cymdeithasau hanes teulu a hanes lleol, milwrol, mapiau, llyfrau, hen gardiau post. Bydd gan y Comisiwn Brenhinol stondin hefyd. Dewch i ddarganfod mwy am ble y bu ein cyndadau yn byw, gweithio ac addoli yng Nghymru.

Gŵyl Archaeoleg Prydain, 11– 26 Gorffennaf
Y digwyddiadau i’w cadarnhau


Arddangosfeydd teithiol y Comisiwn Brenhinol

Arddangosfa deithiol lwyddiannus wedi’i seilio ar ddelweddau o archif gweledol unigryw y Comisiwn Brenhinol o bensaernïaeth ac archaeoleg Cymru yw Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru. Mae’n cynnig cipolwg breintiedig ar du mewn cartrefi Cymru ar hyd y canrifoedd, o fythynnod i blastai, ac o dai neuadd yr Oesoedd Canol i dai parod a godwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Mae’n mynd â ni ar daith drwy rai o ystafelloedd mwyaf diddorol cartrefi Cymreig, hen a modern, gan gynnwys ystafelloedd byw, ceginau, ystafelloedd bwyta, ystafelloedd ymolchi, croglofftydd a llyfrgelloedd.
  • Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, 11 Ebrill – 6 Mehefin 2015 

Prydain oddi Fry: Cymru yw arddangosfa deithiol y Comisiwn Brenhinol o ffotograffau hanesyddol hynaf a mwyaf diddorol Aerofilms. Archif unigryw o filiwn o awyrluniau’n dyddio o 1919 hyd 2006 yw Casgliad Aerofilms. Ceir ffotograffau o bob rhan o Gymru yn yr arddangosfa, a gobeithir y bydd y delweddau anghyfarwydd hyn o leoedd cyfarwydd yn annog cynulleidfaoedd i feddwl am ystyr ac effaith newid, lle a chof.
  • Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, 21 Mawrth – 16 Mai 2015 
  • Plas Llanerchaeron, Aberaeron, 20 Gorffennaf – 25 Medi 2015 
  • Llyfrgell Dinas Abertawe, 20 Gorffennaf – 14 Medi 2015 
  • Llyfrgell y Rhyl, 18 Medi – 30 Hydref 2015 

Arddangosfa o waith Falcon Hildred, yr arlunydd tirluniau dawnus o Flaenau Ffestiniog, yw Worktown: Lluniadau Falcon Hildred. Ers diwedd y 1950au, mae Falcon Hildred wedi cysegru ei fywyd i greu cofnod gweledol o adeiladau diwylliant diwydiannol sy’n prysur ddiflannu, gan alw’r prosiect cyfan yn “worktown”. Mae ei luniadau manwl, hynod atgofus yn aml, yn cynnwys gwybodaeth o’r pwys mwyaf am dirweddau, melinau, ffatrïoedd, chwareli, tai gweithwyr, llyfrgelloedd, capeli a llawer o safleoedd ac adeiladau eraill, gan gofnodi ar lun holl fywiogrwydd a bryntni’r oes ddiwydiannol a fu.
  • Canolfan Maenofferen, Blaenau Ffestiniog, 6 Chwefror – 22 Ebrill 2015 

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn, ewch i dudalen gartref ein gwefan http://www.cbhc.gov.uk/HI/CYM/Hafan/

neu cysylltwch â Nicola Roberts, Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd: nicola.roberts@cbhc.gov.uk, Ffôn: 01970 621248.


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin