Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Thursday 30 October 2014

Prydain oddi Fry: Cymru yn Oriel Pendeitsh, Caernarfon, 7 Tachweddd-24 Ionawr





Llun o Gaernarfon yn dangos y castell, y porthladd a’r dref, c.1934. Mae cynllun strydoedd y fwrdeistref ganoloesol i’w weld yn glir. NPRN: 95318

Prydain oddi Fry: Cymru yw arddangosfa deithiol y Comisiwn Brenhinol o ffotograffau hanesyddol hynaf a mwyaf diddorol Aerofilms. Archif unigryw o filiwn o awyrluniau’n dyddio o 1919 hyd 2006 yw Casgliad Aerofilms. Cafodd y casgliad ei brynu i’r cyhoedd yn 2007 gan English Heritage, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion yr Alban, gyda chymorth ariannol Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Ceir ffotograffau o bob rhan o Gymru yn yr arddangosfa, a gobeithir y bydd y delweddau anghyfarwydd hyn o leoedd cyfarwydd yn annog cynulleidfaoedd i feddwl am ystyr ac effaith newid, lle a chof. Rhai achlysuron arbennig a gofnodwyd yng Ngogledd Cymru yw’r seremoni a gynhaliwyd ger cofgolofn rhyfel y Senotaff yn Llandudno yn ystod ymweliad Tywysog Cymru ym mis Tachwedd 1923, Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru a gynhaliwyd yn Abergele ar 26 Gorffennaf 1950, a llonyddwch iasol Glofa Gresffordd fis ar ôl trychineb yr 22ain o Fedi 1934 pan laddodd ffrwydrad enfawr a’r tân a’i dilynodd 266 o lowyr. Mae delweddau eraill yn cofnodi ysblander eang hardd Eryri a garwedd creigiog moel Ynys Lawd, Caergybi, yn ogystal â’r cestyll Edwardaidd eiconig.

Glofa Gresffordd, Wrecsam, 23 Hydref 1934. Cafodd y ffotograff hwn ei dynnu fis ar ôl trychineb yr 22ain o Fedi 1934 pan laddwyd 266 o lowyr gan ffrwydrad enfawr a thân enbyd yn adran Dennis. NPRN:301580


Ynys Lawd, Caergybi, Môn, 1950. Mae’r goleudy syml ac urddasol wedi goroesi stormydd dros ddwy ganrif a mwy ers ei godi ym 1809. NPRN;41288

Hefyd, ceir yn yr arddangosfa nifer o luniau sy’n croniclo digwyddiadau hanesyddol yn yr Alban a Lloegr, gan gynnwys Gêm Gwpan yr FA yn Stadiwm Wembley ym 1935, y llifogydd yn Jaywick Sands, Essex, ym mis Chwefror 1953 - atgof dwys o storm fawr 1953 - a’r Queen Mary yn Iard Longau John Brown, Glannau Clud, prif long White Star Line cwmni Cunard sydd wedi’i hangori’n barhaol bellach yn Long Beach, California. Bydd dvd o ddelweddau mwy lleol hefyd yn cael ei ddangos ochr yn ochr â’r arddangosfa yn Oriel Pendeitsh. Yn wir, bydd yno rywbeth i bawb!

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin