Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Thursday 24 April 2014

Cwt Nissen: “un o glasuron dylunio mwyaf yr ugeinfed ganrif”





Ffotograff: Dau Gwt Nissen yn Nepo Arfau’r Llynges Frenhinol (RNAD), Trecŵn, Sir Benfro, NPRN 96059

Un o adeiladweithiau milwrol mwyaf adnabyddus y byd yw’r Cwt Nissen. Cafodd y dyluniad syml ar siâp hanner silindr ei ddatblygu gan ŵr o dras Ganadaidd-Americanaidd, y Capten Peter Norman Nissen, o 29ain Cwmni y Peirianwyr Brenhinol, ym 1916.

Cafodd y cytiau eu defnyddio gyntaf yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno yn Hesdin, Ffrainc. Byddai’r cytiau ysgafn, rhad a symudol yn cael eu cynhyrchu mewn tri lled – 16, 24 a 30 troedfedd – a châi’r adrannau mewnol eu gosod ar 6 throedfedd fel bod modd creu cwt o unrhyw hyd yn ôl y gofyn. Gallai un lori fyddin 3 tunnell gludo’r uned safonol gyfan. Roedd y llwyth yn cynnwys haen allanol o haearn rhychiog, leinin mewnol o bren, fframiau metel ar ffurf hanner cylch, drws pren, a ffenestri oelcloth. Gallai tîm arbenigol o chwe dyn godi cwt ar sylfaen goncrit barod mewn pedair awr. Yr amser byrraf ar gyfer codi cwt oedd 1 awr 27 munud. Amcangyfrifir i 100,000 o unedau gael eu cynhyrchu yn ystod y rhyfel.

Roedd y Cytiau Nissen yn cwrdd â’r galw am adeiladau dros dro i gartrefu’r miloedd ar filoedd o filwyr a oedd newydd ymuno â’r fyddin. Roedd y dyluniad hyblyg yn golygu y gallai’r cytiau gael eu defnyddio hefyd fel ceginau, ystafelloedd bwyta, storfeydd, gorsafoedd trin clwyfau, eglwysi ac ati.
Lluniad: O Gasgliad Medwyn Parry.

Roedd Nissen wedi codi patent am ei ddyluniad yn y DU, Awstralia, De Affrica, Canada a’r Unol Daleithiau. Ond gwrthododd unrhyw freindaliadau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a gwnaeth y cwmni gweithgynhyrchu yr un peth eto yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Nid Capten Nissen oedd yr unig un a fu’n datblygu cytiau dros dro yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Enghreifftiau eraill oedd Cytiau Armstrong, Cytiau Aylwin, Cytiau Forest, Cytiau Cludadwy Tarrant, a Chytiau Weblee, yr oedd pob un ohonynt wedi’u henwi ar ôl swyddogion gyda’r Peirianwyr Brenhinol. Cafodd dyluniadau tebyg eu datblygu yn ystod yr Ail Ryfel Byd hefyd, er enghraifft, Cytiau Abbey, Cytiau Iris, Cytiau Romney, a Chytiau Tufton. Ond nid oedd yr un o’r rhain mor hollbresennol ag un o glasuron dylunio mwyaf yr ugeinfed ganrif, y Cwt Nissen eponymaidd. Mae’r cysyniad syml wedi parhau i gael ei ddefnyddio am ganrif bron, heb unrhyw newid i’w siâp sylfaenol.
Gan Medwyn Parry.


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin