Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Monday 28 October 2013

Ffair Lyfrau Hanes Lleol - Amgueddfa Abertawe






Ar Ddydd Sadwrn, 2 Tachwedd 2013, bydd staff y Comisiwn Brenhinol yn mynychu Ffair Lyfrau Hanes Lleol Sefydliad Brenhinol De Cymru yn Amgueddfa Abertawe, rhwng 10am a 4 pm. Yn ystod y diwrnod bydd cyfle i brynu llyfrau newydd ar hanes lleol, llyfrau ail-law a hynafiaethol, mapiau a phaentiadau  hanesyddol, cardiau post a llawer mwy. Bydd awduron, cyhoeddwyr a pherchnogion siopau llyfrau, cynrychiolwyr cymdeithasau hanes lleol, yn ogystal â staff y Comisiwn Brenhinol, ar gael drwy gydol y dydd i ateb ymholiadau a sgwrsio ag ymwelwyr. Dewch yn arbennig i’n stondin ni, lle bydd ein holl gyhoeddiadau ar werth, gan gynnwys tri theitl a gyhoeddwyd yn ddiweddar: Fields of Play: The Sporting Heritage of Wales, Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru / Inside Welsh Homes a Worktown: The Drawings of Falcon Hildred, i gyd gyda gostyngiad o 10%. Mae’r diwrnod yn siwr o fod yn gyfle gwych i bawb, felly dewch i ymuno â ni!


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

1 comments:

CBHC - RCAHMW said...

Mae ein hôl-gatalog cyfan ar gael drwy ein siop lyfrau.
Mae’r holl deitlau sydd allan o brint bellach ar gael fel eLyfrau drwy Google Play, ac mae rhestrau (‘inventories’) a gyhoeddwyd cyn 1965 yn ddi-dâl.

http://www.cbhc.gov.uk/HI/CYM/Cyhoeddiadau/Siop+Lyfrau/

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin