Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Monday 10 June 2013

Cyfleuster Chwilio Newydd Coflein





Bydd dimensiwn newydd i system cyrchu’r we y Comisiwn Brenhinol – Coflein – yn cael ei gyflwyno ar 11 Mehefin. Hyd yn hyn, mae ymchwilwyr wedi gallu chwilio ein cronfa ddata o safleoedd a henebion i ddarganfod y cofnodion archifol hynny yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru sy’n ymwneud yn benodol â’r safleoedd mae chwiliad yn dod o hyd iddynt. Ond o 11 Mehefin, bydd defnyddwyr hefyd yn gallu chwilio catalog archifau Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yn uniongyrchol. Bydd hyn yn caniatáu i’r cyhoedd archwilio ein casgliadau yn fwy manwl a chyrchu cyfeiriadau at gofnodion nad ydynt o anghenraid yn gysylltiedig â safleoedd penodol.

Bydd defnyddwyr yn gallu chwilio am gofnodion a gynhyrchwyd gan unigolion penodol, er enghraifft archaeolegydd neu hanesydd adnabyddus, neu gan wahanol gyrff. Bydd modd gwneud chwiliadau hefyd yn ôl dyddiad, yn ôl cyfrwng y cofnod, drwy ddisgrifiad testun-rhydd, neu drwy gyfuniadau o’r tri therm hyn. Yn ogystal, gall ymchwilwyr fynd yn syth at gasgliadau penodol a’u harchwilio drwy bori, neu drwy ddefnyddio’r paramedrau chwilio a amlinellwyd uchod. Bydd y canlyniadau’n arddangos y cofnodion yn ôl hierarchaeth y catalog (e.e. ar lefel y casgliad, y grŵp a’r eitem), gan alluogi defnyddwyr i ddeall cyd-destun y cofnodion o fewn eu casgliadau cysefin, a gweld y berthynas rhwng y gwahanol gofnodion.

Bydd nodweddion newydd hefyd yn ei gwneud hi’n bosibl i ddefnyddwyr fireinio eu chwiliadau drwy bennu meini prawf pellach, e.e. drwy ddewis cofnodion o gasgliadau penodol yn unig neu drwy gyfyngu chwiliadau i gofnodion sy’n cynnwys eitemau digidol ar-lein yn unig. Yn ogystal, bydd defnyddwyr yn gallu pennu pa lefel o gofnodion catalog y maent hwy am eu gweld, boed yn gasgliad, grŵp neu eitem. Bydd y gallu hwn i fireinio chwiliadau drwy bennu meini prawf pellach yn cael ei gymhwyso at gyfleusterau chwilio presennol y wefan yn ystod yr wythnosau i ddod.

Gellir dod o hyd i Coflein yma: http://www.coflein.gov.uk

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin