Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Wednesday 16 January 2013

Arddangosfa Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor





Mae ein harddangosfa boblogaidd ‘Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru’ yn symud ymlaen unwaith eto, y tro hwn i Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ym Mangor, gogledd Cymru.

Bydd yr arddangosfa’n agor ar Ddydd Sadwrn, 19 Ionawr 2013, ac yn cau ar Ddydd Sadwrn, 2 Mawrth 2013. Bydd mwy na deg ar hugain o ddelweddau o gartrefi Cymru o archif helaeth y Comisiwn yn cael eu dangos, ynghyd â gwrthrychau domestig o gasgliadau’r amgueddfa ei hun. Defnyddir llyfr y Comisiwn, Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru, i ategu’r arddangosfa.

Bydd Rachael Barnwell, curadur y Comisiwn Brenhinol sy’n gyfrifol am yr arddangosfa hon, yn rhoi sgwrs fer yn ystod yr agoriad ar 19 Ionawr.
I gael manylion amserau agor a mynediad, ewch i wefan Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, neu ffoniwch 01248 353 368.
Er i rewgelloedd modern ddechrau cael eu gwerthu ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ni welwyd mohonynt mewn amryw o gartrefi Cymru tan yn ddiweddarach. Tynnwyd y llun hwn o Henryd yn Sir Gaernarfon ym 1950 ac mae cig yn dal i gael ei gyffeithio a’i gadw yn y ffordd draddodiadol.
DI2012_0138   NPRN 26615


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin