Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Thursday 17 December 2015

Syr John Rhŷs a’r Comisiwn Brenhinol (1840—1915): ysgolhaig Cymreig mwyaf ei oes





Manylyn o Syr John Rhŷs o lun o grŵp o Gomisiynwyr, 1913. NPRN: 54624.
Gan mlynedd i heddiw, 17 Rhagfyr 2015, bu farw Syr John Rhŷs, yr ysgolheig ac ieithegwr Celtaidd mawr. Cafodd ei eni ar 21 Mehefin 1840 yn Aberceiro-fach, Ponterwyd,yn fab i ffermwr a mwynwr plwm. Cafodd y bwthyn ei droi’n adeilad fferm yn ddiweddarach ond aeth yn adfail ar ôl yr Ail Ryfel Byd, er gwaethaf apêl i’w ddiogelu.

Ar ôl astudio yn y Coleg Normal, Bangor (1860—61), daeth John Rhŷs yn fyfyriwr yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, ym mis Hydref 1865. Yna bu ar deithiau ymchwil i Baris, Heidelberg, Leipzig a Gӧttingen. Yn y fan hyn y datblygodd ei ddiddordeb mewn ieitheg ac ieithyddiaeth. Ym 1874 fe draddododd gyfres o ddarlithiau yn Aberystwyth a gyhoeddwyd yn ddiweddarach yn Lectures on Welsh Philology (1877), ble mae’n datgan y ddeddf ieithegol bod y gytsain i mewn Celteg yn dod yn dd yn Gymraeg, ac a elwir o hyd yn Ddeddf Rhŷs. Enillodd enw iddo’i hun yn gyflym iawn fel ysgolhaig Celtaidd blaenllaw a oedd yn arbenigo ym meysydd archaeoleg, llên gwerin ac ethnoleg, yn ogystal ag ieitheg. Cafodd ei benodi’n athro Celteg cyntaf Prifysgol Rhydychen ym 1877. Daeth yn ffigur cyhoeddus amlwg, gan wasanaethu ar lu o bwyllgorau, cynghorau a Chomisiynau, ac roedd yn siaradwr cyhoeddus poblogaidd, yn enwedig mewn eisteddfodau.


Tudalen deitl y Rhestr gyntaf: The County of Montgomery (1911) sydd bellach ar gael fel e-lyfr di-dâl.
Cafodd Syr John Rhŷs ei benodi’n Gadeirydd cyntaf Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ar 10 Awst 1908. Dechreuodd y Comisiwn Brenhinol ar unwaith ar y gwaith o gynhyrchu cyfres o restri sirol. The County of Montgomery oedd y Rhestr gyntaf i ymddangos (1911). Parhaodd yn Gadeirydd hyd ei farwolaeth ar 17 Rhagfyr 1915, pan gafodd ei ddisgrifio gan y papur newydd Llais Llafur fel “the greatest Welsh scholar of our time”.

Bwthyn Aberceiro-fach, Ponterwyd 1952; Adfeilion Aberceiro-fach, Ponterwyd 2015, NPRN: 420775.


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!


Rhannu ar:
Twitter   •   Facebook   • Google+   • Linkedin




Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales


Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin