Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Friday 21 February 2014

Prosiect Cymunedol Trimsaran





Mae rhywbeth arbennig yn digwydd yng Nghanolfan Hamdden Trimsaran yn ystod wythnos hanner tymor, 24-28 Chwefror. Bob dydd fe fydd cyfle i gymryd rhan mewn prosiect di-dâl i wneud map 3D o’r pentref, gan ddefnyddio amrywiaeth eang o ddefnyddiau crefft. Bydd y map yn cael ei ddangos wedyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gaiff ei chynnal yn Llanelli yn yr haf. Mae croeso i bawb sydd â diddordeb ymuno â ni a rhoi eu sgiliau crefft ar waith, er enghraifft, gwau, crosio, gwnïo, torri allan, lliwio neu ludio, neu fanteisio ar y cyfle i ddysgu rhywbeth newydd!

Francis Lewis Wills, Shaw a Friese-Greene mewn awyren ddwbl DH9B, Gorffennaf, 1919.
Nod y prosiect yw defnyddio atgofion trigolion ardal Trimsaran i wneud cofnod manwl o’r pentref. Gofynnir iddyn nhw ddod ag unrhyw wybodaeth yr hoffent ei rhannu megis ffotograffau, papurau newydd neu wrthrychau sy’n eu hatgoffa o rywbeth am y pentref.

Dociau Caerdydd, 1929.
Neuadd y Dref, Abertawe, newydd ei chwblhau, 1935.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal gan y prosiect Prydain Oddi Fry ar y cyd â Chymunedau’n Gyntaf. Nod y prosiect, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, yw cyhoeddi awyrluniau hanesyddol prin o Gymru, Yr Alban a Lloegr a dynnwyd rhwng 1919 a 1953 ac sy’n dyst i’r newidiadau mawr yn nhirwedd gwledydd Prydain. Bydd y map 3D y bydd pobl yr ardal yn ei greu yn debyg i awyrlun o’r pentref, a bydd yn cynnwys sylwadau, atgofion a straeon y rheiny sy’n cyfrannu.

Gall pawb gymryd rhan yn y prosiect. Mae’r cyfan am ddim ac mae croeso cynnes i bobl o bob oedran. Bydd yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Hamdden Trimsaran yn ystod wythnos hanner tymor:

Dydd Llun 24 10-4pm
Dydd Mawrth 25 10-1pm
Dydd Mercher 26 12:30pm-5pm
Dydd Iau 27 1-4pm
Dydd Gwener 28 10-1pm a 4-5pm i orffen.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Natasha Scullion, Swyddog Gweithgareddau Prydain Oddi Fry: 07920296279
E-bost: Natasha.scullion@cbhc.gov.uk

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin