Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Wednesday 15 January 2014

Mesurau Newydd ar gyfer Amgylchedd Hanesyddol Cymru







Ar Ddydd Mawrth 14 Ionawr cyhoeddodd John Griffiths AC, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, fesurau newydd ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru, gan gynnwys y penderfyniad y bydd y Comisiwn Brenhinol a Cadw yn parhau’n gyrff ar wahân am y tro.

Mae'r Comisiynwyr yn falch bod y Gweinidog wedi gwneud penderfyniad clir y dylai’r Comisiwn Brenhinol barhau i weithredu fel corff hyd-braich a noddir gan Lywodraeth Cymru. Maent hwy wedi ymrwymo i barhau i weithio'n agos â Cadw (eu hadran nawdd o fewn Llywodraeth Cymru) a phartneriaid eraill i ddarparu’r gwasanaethau amgylchedd hanesyddol gorau posibl i bobl Cymru.

Gellir gweld datganiad llawn y Gweinidog ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae’r ymatebion llawn i’r ymgynghoriad ‘Dyfodol ein Gorffennol’ bellach ar gael ar-lein.   I weld dadansoddiad llawn o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.


Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin