Swyddi Tanysgrifio i Swyddi Blog Treftadaeth Cymru News      Pob Sylw Tanysgrifio i Heritage of Wales Sylwadau Blog Newyddion     English

Friday 17 April 2015

Darganfyddwch Darddiad Afon Wysg ar Daith Gerdded Fawr Gymreig y Comisiwn Brenhinol, 9 Mai 2015





Cymylau isel yn y mynyddoedd lle mae tarddiad Afon Wysg.
Yn dilyn llwyddiant taith gerdded y llynedd o Fan Llia i Fan Dringarth a arweiniwyd gan y Comisiwn Brenhinol fel rhan o Daith Gerdded Fawr Gymreig Cerddwyr Cymru, a gynhelir bob blwyddyn drwy gydol mis Mai, mae taith gyffrous arall wedi’i threfnu ar gyfer eleni mewn partneriaeth â Cadw a Cherddwyr Cymru. Ar Ddydd Sadwrn, 9 Mai bydd ein huwch archaeolegydd David Leighton yn arwain taith gerdded ddiddorol a difyr ar hyd rhannau uchaf Afon Wysg mor bell â’i tharddiad (o dan glogwyni Fan Brycheiniog a Bannau Sir Gaer), ac ochr ddwyreiniol bellaf y Mynydd Du. Bydd y daith gerdded gylchol hon, 11 km o hyd, yn cychwyn o’r ardal parcio a phicnic ym Mhont ar Wysg yn SN82002715. Yna byddwn yn dringo’n araf i 2000 o droedfeddi uwchlaw lefel y môr ac yn gweld amrywiaeth o safleoedd o’r cyfnodau cynhanesyddol, Rhufeinig, canoloesol a diweddarach. Ar hyd y daith fe welwn olygfeydd syfrdanol o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, carneddau claddu o’r Oes Efydd, olion gwersyll cyrch Rhufeinig a hyd yn oed gorlan ddefaid fawr o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gyda’i hadrannau niferus. Yng nghwmni staff eraill y Comisiwn Brenhinol, gan gynnwys yr hanesydd pensaernïol Richard Suggett, bydd David Leighton yn cynnig ei arbenigedd hanesyddol ar hyd y ffordd, gan rannu’r cyfoeth o wybodaeth sydd ganddo am ardaloedd uwchdirol ar ôl treulio blynyddoedd lawer yn cydlynu Prosiect Uwchdiroedd llwyddiannus y Comisiwn Brenhinol. Mae’n argoeli bod yn ddiwrnod gwych allan i gerddwyr brwd o bob oedran a chyfle prin i ddarganfod mwy am yr hanes sydd o’n cwmpas ym mhob man!

Mae lleoedd ar gyfer y daith yn dal ar gael, er nad oes llawer ar ôl. I gael manylion pellach ac i drefnu’ch lle cysylltwch â nicola.roberts@cbhc.gov.uk.

Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y Cerddwyr yn 80 oed, bydd y Daith Gerdded Fawr Gymreig eleni yn fwy nag erioed! I gael mwy o fanylion, ewch i’w gwefan yn http://www.ramblers.org.uk/go-walking/big-welsh-walk.aspx.

I weld rhestr o’r teithiau cerdded treftadaeth sy’n cael eu trefnu gan Cadw, ewch i’r dudalen ddigwyddiadau ar eu gwefan: http://cadw.wales.gov.uk/events/?lang=en.

Merlod a chylch meini yn Nyffryn Wysg uchaf: un o’r safleoedd ar y daith.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar:
Facebook Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin